Neidio i'r cynnwys

Foras na Gaeilge

Oddi ar Wicipedia
Foras na Gaeilge
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth lywodraethol, rheoleiddiwr iaith Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2 Rhagfyr 1999 Edit this on Wikidata
PencadlysDulyn, Belffast Edit this on Wikidata
Enw brodorolForas na Gaeilge Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gaeilge.ie Edit this on Wikidata
Pencadlys Foras na Gaeilge, Dulyn (2024)

Mae Foras na Gaeilge ("Sefydliad y Wyddeleg") yn gorff statudol sy'n gofalu am yr iaith Wyddeleg ac yn ei hyrwyddo yn y ddwy uned wleidyddol yn Iwerddon, sef 26 sir Gweriniaeth Iwerddon a chwe sir Gogledd Iwerddon. Mae'n un o'r cyrff traws-ffiniol a sefydlwyd yn sgîl Cytundeb Gwener y Groglith. Fe'i sefydlwyd ar yr 2 Rhagfyr 1999, ac yn y 26 sir fe gymerodd drosodd swyddogaeth y cyrff Bord na Gaeilge, An Gúm, ac An Coiste Téarmaíochta, oedd yn gyrff statudol yn y Weriniaeth.

Swyddogaethau

[golygu | golygu cod]
  • Hyrwyddo'r Wyddeleg;
  • Hwyluso ac annog defnydd llafar ac ysgrifennu mewn bywyd cyhoeddus a phreifat yng Ngweriniaeth Iwerddon ac, yng nghyd-destun Rhan III o'r Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol, yng Ngogledd Iwerddon lle mae galw priodol;
  • Cynghori gweinyddiaethau, cyrff cyhoeddus a grwpiau eraill yn y sectorau preifat a gwirfoddol;
  • Ymgymryd â phrosiectau cefnogol, a chyrff a grwpiau cymorth grant yn ôl yr angen;
  • Ymgymryd ag ymchwil, ymgyrchoedd hyrwyddo, a chysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau;
  • Datblygu terminoleg a geiriaduron;
  • Cefnogi addysg cyfrwng Gwyddeleg a dysgu Gwyddeleg.

Canolfannau

[golygu | golygu cod]

Sefydlir sawl Áras na Gaeilge ("Llety/Adeilad y Wyddeleg") gan Foras na Gaeilge fel canolfan ar gyfer gweithgarwch dros yr iaith ar draws tiriogaeth Iwerddon. Yn y Áras na Gaeilge yn Nulyn lleolir gorsaf radio gymunedol Wyddeleg ar gyfer y ddinas, sef, Raidió na Life.

Glór na nGael

[golygu | golygu cod]

Mae Foras hefyd yn ariannu Glór na nGael corff a sefydlwyd yn 1961 ac sy'n gweithio i hyrwyddo'r iaith o fewn y teulu, chwaraeon a'r gymuned.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.